Mae deddfau erthylu llym Gogledd Iwerddon yn mynd yn groes i hawliau dynol, meddai barnwr yn yr Uchel Lys.

Fe allai’r dyfarniad yn yr Uchel Lys ym Melfast arwain at lacio’r deddfau llym sy’n gwahardd marched rhag cael erthyliad mewn achosion o drais, llosgach neu abnormaledd angheuol i’r ffetws.

Comisiwn Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon (NIHRC) oedd wedi cyflwyno’r her gyfreithiol.

Yn wahanol i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig, nid yw’r Ddeddf Erthylu 1967 yn weithredol yng Ngogledd Iwerddon, lle mae erthyliadau wedi cael eu gwahardd heblaw bod bywyd neu iechyd meddwl y fam mewn perygl.

Gall unrhyw un sy’n erthylu’n anghyfreithlon gael ei garcharu am oes.

‘Hanesyddol’

Roedd yr achos wedi cael ei ddwyn yn erbyn Adran Gyfiawnder y wlad.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, fe wnaeth yr adran argymell newid y gyfraith mewn achosion o abnormaledd angheuol i’r ffetws.

Fodd bynnag, dywedodd NIHRC nad oedd hyn yn mynd yn ddigon pell a dadleuodd fod y gyfraith bresennol yn anghyson â deddfwriaeth hawliau dynol ynghylch triniaeth giaidd a diraddiol, preifatrwydd a gwahaniaethu.

Wrth siarad y tu allan i’r llys, dywedodd y prif gomisiynydd, Les Allamby, bod y dyfarniad yn “hanesyddol”.

“Mae’r canlyniad heddiw yn hanesyddol, a bydd yn cael ei groesawu gan lawer o fenywod a merched bregus sydd wedi wynebu’r sefyllfaoedd hyn. Rydym yn falch iawn o’r canlyniad.”

‘Siom’

Fodd bynnag, roedd yr ymgyrchydd amlwg yn erbyn erthyliadau, Bernadette Smyth wedi’i siomi yn y canlyniad.

“Dydyn ni ddim yn cydnabod y pwyntiau negyddol a wnaeth y barnwr heddiw… Rhaid i ni ddiogelu hawliau’r plentyn sydd heb gael ei eni,” meddai.