Arglwydd Feldman
Bydd aelodau blaenllaw’r Blaid Geidwadol yn cyfarfod heddiw wrth i gadeirydd y blaid wynebu pwysau cynyddol i ymddiswyddo yn dilyn y modd a ddeliodd â honiadau o fwlio a blacmel.

Fe wnaeth Elliott Johnson, 21, oedd yn ymgyrchydd ifanc dros y Ceidwadwyr, ladd ei hun gan adael nodyn yn condemnio aelod arall o’r blaid, Mark Clarke.

Daw’r pwysau cynyddol ar yr Arglwydd Feldman i ymddiswyddo o’i rôl fel cadeirydd y blaid ar ôl i’w gadeirydd ar y cyd, Grant Shapps ymddiswyddo ar ôl i honiadau o fwlio gael eu hadrodd yn y cyfryngau.

Er bod Downing Street wedi pwysleisio bod gan y Prif Weinidog, David Cameron “hyder llawn” yn yr Arglwydd Feldman, mae ffynhonnell o’r blaid wedi cadarnhau bod y cadeirydd ymhlith 40 o “dystion” sydd wedi rhoi tystiolaeth ysgrifenedig i swyddogion y blaid.

Ymchwiliad

Y gred yw bod yr Arglwydd Feldman wedi lansio ymchwiliad i’r honiadau ynghylch Mark Clarke ym mis Awst ond nad oedd wedi chwarae rhan yn yr ymchwiliad hwnnw.

Mae’r cwmni cyfreithiol, Clifford Chance LLP wedi cael cyfarwyddyd i baratoi adroddiad ar y materion sy’n cael eu codi, gyda chyfrifoldeb i asesu p’un a ddeliwyd â chwynion yn gywir ac adnabod unrhyw unigolion oedd ar fai.

Does dim disgwyl i’r dystiolaeth gael ei chwblhau nes dechrau’r flwyddyn nesaf, a bydd y cwmni yn cyhoeddi’r adroddiad “cyn gynted â phosibl ar ôl hynny.”

Dywedodd AS dros y Blaid Geidwadol, Charles Walker, sy’n aelod o fwrdd y blaid, wrth y Guardian y byddai angen ystyried cyfres o gwestiynau am yr honiadau.

“Mae angen i ni sefydlu hyn: a wnaeth y swyddfa dderbyn cwynion am ymddygiad Mark Clarke? Os oedd wedi derbyn y cwynion, beth oedd natur y cwynion? Sut gafodd y cwynion eu cofnodi? Sut deliwyd â nhw,” meddai.

“Os cafwyd cwynion, rydym yn amau eu bod nhw, ond dydyn ni ddim yn gwybod, a gafodd y cwynion eu datgelu i Mark Clarke? Byddai hynny o bryder mawr, mawr.”