Bydd tafarn yn Glasgow yn cau’n gynnar heno union ddwy flynedd wedi trychineb a laddodd 10 o bobol.

Plymiodd hofrennydd yr heddlu i mewn i adeilad tafarn Clutha drwy’r to ar 29 Tachwedd, 2013.

Cafodd y bar ei ail-agor fis Gorffennaf eleni.

Cafodd y peilot David Traill a dau o gwnstabliaid yr heddlu, Tony Collins a Kirsty Nellis eu lladd yn y digwyddiad.

Y rhai eraill fu farw y tu fewn i’r adeilad oedd John McGarrigle, Mark O’Prey, Gary Arthur, Colin Gibson, Robert Jenkins a Samuel McGhee.

Bu farw Joe Cusker yn yr ysbyty’n ddiweddarach.

Daeth ymchwiliad i’r casgliad fod switsys cyflenwad tanwydd y tu fewn i’r hofrennydd wedi’u diffodd, ac nad oedd y peilot wedi dilyn cyfarwyddiadau argyfwng.

Bydd y dafarn yn cau am 9 o’r gloch heno.