Y Prif Weinidog David Cameron (llun: PA)
Cynyddu mae’r dyfalu bod y Prif Weinidog David Cameron ar fin galw pleidlais seneddol ar ymosodiadau o’r awyr gan Brydain ar Syria.

Y disgwyl yw y bydd yn manteisio ar y rhaniadau o fewn y Blaid Lafur ar y pwnc, gydag arwyddion cynyddol bod nifer fawr o’r ASau yn gwrthwynebu barn eu harweinydd Jeremy Corbyn.

Ymysg y rhai sydd wedi datgan eu barn o blaid ymosodiadau yn erbyn IS mae’r cysgod-ysgrifennydd Tramor, Hilary Benn a’r dirprwy arweinydd Tom Watson.

Er bod Jeremy Corbyn wedi dweud y byddai’n gwrthwynebu bomio, nid yw’n glir eto a fydd yn caniatáu pleidlais rydd ar y mater.

Mae David Cameron wedi cadarnhau bod yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon a’r Ysgrifennydd Tramor, Philip Hammond, yn ffonio ASau Llafur y penwythnos yma i geisio ennill eu cefnogaeth.

“Dw i’n gobeithio y bydd pobl, pan ddaw’r dewis, yn penderfynu mai dyma’r peth iawn i Brydain ei wneud,” meddal.