(llun; PA)
Mae banc Barclays wedi cael dirwy o £72 miliwn am beidio â gwneud y gwiriadau gwrth-droseddu angenrheidiol wrth ymdrin â dêl gwerth £1.88 biliwn i gleientiaid cyfoethog.

Dywed yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) fod Barclays wedi osgoi gwneud y gwiriadau er mwyn sicrhau ffioedd o £52.3 miliwn cyn gynted â phosibl.

Roedd y banc, meddai’r FCA, wedi “mynd yn rhy bell i blesio’r cleientiaid gan fethu â gofyn am wybodaeth er mwyn osgoi peri anhwylustod iddynt.”

Er nad oedd y cleientiaid, sy’n aros yn ddienw, wedi torri unrhyw gyfraith, fe ddylen nhw fod wedi cael eu gwirio’n llawer mwy trylwyr.

Hon yw’r ddirwy fwyaf i fanc ei gael am fethiannau gyda gwiriadau rhag troseddu ariannol.