(llun: PA)
Mae disgwyl y bydd dros siopwyr wedi gwario dros £3 biliwn erbyn diwedd dydd Llun, wrth i sêls penwythnos y ‘dydd Gwener du’ gydio o ddifrif ym Mhrydain.

Cafodd y siop ar-lein enfawr Amazon ei diwrnod gwerthiant prysuraf erioed ym Mhrydain ddoe, gyda dros chwe miliwn o eitemau’n cael eu harchebu.

Cafodd amryw o siopau, gan gynnwys John Lewis ac Argos, drafferth gyda’u gwefannau ddoe oherwydd y prysurdeb.

Roedd llawer o dorfeydd i’w gweld yn y siopau, fodd bynnag, o gymharu â’r un diwrnod y llynedd.

Mae disgwyl y bydd cyfnod y sêls yn parhau mewn llawer o siopau o hyn tan y Nadolig.