Jeremy Corbyn - wynebu brwydr o fewn ei blaid (llun: PA)
Mae bron i hanner pobl Prydain o blaid ymosodiadau o’r awyr ar y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria o gymharu â llai na thraean yn erbyn.

Dyna yw canlyniadau arolwg barn gan Survation ym mhapur newydd y Daily Mirror heddiw.

Mae’n dangos 48% o blaid, 30% yn erbyn a’r gweddill heb benderfynu.

Digon tebyg yw’r farn ymysg pobl a bleidleisiodd dros Lafur yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai hefyd, gyda 46% ohonyn nhw o blaid a 35% yn erbyn.

Daw’r arolwg wrth i arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, wynebu rhwyg cynyddol ar y pwnc o fewn ei blaid.