Doug Richard (Llun PA)
Mae miliwnydd fu’n un o ‘ddreigiau’ y rhaglen deledu Dragons’ Den ac yn cynghori David Cameron, wedi gwadu talu merch 13 oed am ryw ar ôl ei chyfarfod ar y wefan Sugar Daddy.

Mae Doug Richard, 57, wedi ei gyhuddo o roi chwip dîn i’r ferch a chymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol arall wedi iddi deithio i Lundain i’w gyfarfod.

Bu o flaen ei well yn Llys yr Old Bailey wedi ei gyhuddo o weithgarwch rhywiol gyda phlentyn, o achosi neu hudo plentyn i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol ac o dalu plentyn am wasanaethau rhywiol.

Honnir i’r troseddu ddigwydd ar yr 2il o Ionawr.

Mae disgwyl i Doug Richard ddychwelyd i’r llys ar gyfer achos yn para pum niwrnod ar Ionawr 25.

Yn ôl adroddiadau bu i’r miliwnydd deithio ar drip tramor swyddogol i Affrica gyda David Cameron, er mwyn cynghori Prif Weinidog Prydain ar bolisi.

Roedd yn un o wynebau cyfarwydd dwy gyfres gyntaf Dragons’ Den ar y BBC.