Jeremy Corbyn (Rwedland CCA 4.0)
Mae’r arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, wedi cael rhybudd y gallai rhai o’i gabinet ymddiswyddo pe bai’n ceisio’u gorfodi i bleidleisio yn erbyn bomio Syria.

Ond mae un o’i gefnogwyr penna’ wedi rhybuddio aelodau seneddol i beidio â mynd yn erbyn barn y blaid yn gyffredinol.

O ganlyniad i’r argyfwng, fe benderfynodd Jeremy Corbyn ganslo ymweliad ag Oldham heddiw, lle mae ymgyrch isetholiad ar droed.

‘Cythruddo’

Mewn cyfarfod o gabinet yr wrthblaid neithiwr, fe fethodd yr aelodau â dod i benderfyniad ar ôl trafodaeth yn Nhŷ’r Cyffredin am y syniad o fomio.

Mae’n ymddangos bod Jeremy Corbyn wedi cythruddo rhai o’i gabinet trwy anfon llythyr yn union wedyn at aelodau seneddol y blaid yn dweud nad yw’r Prif Weinidog David Cameron wedi ei “argyhoeddi” ynglŷn â’r achos tros fomio.

Yn ôl adroddiadau dienw, mae hynny’n cael ei weld yn ymgais i ddylanwadu ar gyfarfod nesa’ cabinet yr wrthblaid ddydd Llun pan fyddan nhw’n penderfynu’n derfynol ar eu hagwedd.

‘Peidiwch â gwrthwynebu’

Ar ôl y cyfarfod neithiwr, fe ddywedodd un o brif gefnogwyr Jeremy Corbyn, y llefarydd datblygu rhyngwladol, Diane Abbott, na ddylai’r cabinet bleidleisio yn erbyn eu harweinydd ac yntau wedi ennill y gefnogaeth fwya’ erioed yn etholiad yr arweinydd.

Mae penderfyniad David Cameron i alw pleidlais ar y bomio yn dibynnu i raddau ar agwedd y Blaid Lafur – mae’n rhaid iddo gael cefnogaeth rhai ohonyn nhw i lwyddo.