David Cameron
Mae’r Prif Weinidog wedi galw ar Aelodau Seneddol i gefnogi cynnal cyrchoedd o’r awyr ar gadarnleoedd IS yn Syria gan ddweud y byddai peidio gwneud hynny yn ‘anfoesol’.

Mewn datganiad angerddol i Dŷ’r Cyffredin, dywedodd David Cameron fod y grŵp brawychol yn trefnu erchyllterau yn erbyn y Deyrnas Unedig a bod angen i’r wlad helpu America, Ffrainc a chynghreiriaid eraill i’w drechu.

Mynnodd fod cyfiawnhad cyfreithiol cryf dros ehangu’r ymgyrch filwrol yn Irac er mwyn amddiffyn Prydain.

Ond dywedodd hefyd na fyddai’n galw am bleidlais yn y Senedd oni bai bod “mwyafrif clir” o blaid y cyrchoedd.

‘Canlyniadau anfwriadol’ – Corbyn

Fe wnaeth Jeremy Corbyn rybuddio am “ganlyniadau anfwriadol” dros ymosod yn Syria, tra awgrymodd yr SNP y byddai’n debygol o wrthwynebu’r cynnig.

Gan amlinellu beth oedd e’n ei ddisgrifio’n strategaeth “gynhwysfawr” ar sut i ddelio ag IS, cyfaddefodd David Cameron na fyddai ymosodiadau o’r awyr yn unig yn ddigon.

Ond dadleuodd y byddai targedu safleoedd y grŵp yn Syria yn angenrheidiol i leihau ei allu i baratoi ymosodiadau brawychol mewn rhannau eraill o’r byd.

Ychwanegodd hefyd fod saith ymosodiad dros y flwyddyn ddiwethaf wedi’u cysylltu ag IS, neu wedi’u hysbrydoli gan ei bropaganda.

“Rydym yn wynebu bygythiad sylfaenol i’n diogelwch,” meddai. “Gallwn ni ddim aros am newid gwleidyddol, mae’n rhaid i ni fwrw’r brawychwyr hyn yn eu cadarnleoedd ar unwaith a rhaid i ni beidio â rhoi ein cyfrifoldeb dros ddiogelwch i eraill.”

Gallai Aelodau Seneddol bleidleisio ar y mater mor gynnar ag wythnos nesaf ond does dim cadarnhad am hynny eto.