David Cameron
Does gan Brydain ddim dewis ond gweithredu yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS), mae David Cameron wedi dweud heddiw.

Mae’r Prif Weinidog wedi bod yn cyflwyno’i ddadleuon dros ehangu’r ymosodiadau o’r awyr yn Irac i Syria  mewn ymateb ysgrifenedig i bwyllgor seneddol oedd wedi mynegi pryder am weithredu milwrol pellach.

Mae David Cameron yn cydnabod na fydd ymosodiadau o’r awyr yn unig yn ddigon i drechu IS ond dywedodd y byddan nhw’n helpu i danseilio grym milwrol y grŵp eithafol.

Mae wedi gwrthod y syniad y byddai ymuno a’r Unol Daleithiau, Ffrainc a gwledydd eraill yn yr ymosodiadau ar IS yn ei gadarnleoedd yn Syria, yn rhoi Prydain mewn perygl o ymosodiadau braywchol tebyg i’r rhai ym Mharis bron i bythefnos yn ôl.

Mae’r bygythiad i’r DU eisoes yn “sylweddol iawn” meddai David Cameron.

Dywedodd wrth y Pwyllgor Materion Tramor: “Mae un peth yn glir: mae’r bygythiadau i’n gwlad a’n pobl yn golygu na allwn fforddio sefyll o’r neilltu a pheidio â gweithredu.”

Mae’r ymosodiadau ym Mharis wedi cynyddu’r pwysau ar David Cameron i weithredu ac fe allai pleidlais ar y mater gael ei chynnal mor fuan ag wythnos nesaf.

Ond mae’r Prif Weinidog wedi dweud na fydd yn cynnal pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin oni bai ei fod yn gwbl sicr y byddai’n cael cefnogaeth y mwyafrif.