George Osborne
Mae’r Canghellor George Osborne wedi mynnu nad oedd ei dro pedol ar dorri credydau treth yn “arwydd o wendid.”

Roedd disgwyl i’r Llywodraeth gwtogi credydau treth, sydd yn daliadau ychwanegol i bobl sydd ar gyflogau isel, yn yr Adolygiad Gwariant ddoe.

Ond fe gyhoeddodd Osborne na fyddai’r taliadau hynny’n cael eu torri, gan ddweud hefyd y byddai cyllidebau eraill fel rhai’r heddlu yn cael eu gwarchod a gwariant ar iechyd yn cynyddu.

Gwelwyd toriadau mewn sawl maes arall fodd bynnag gan gynnwys lles, trafnidiaeth, cyfiawnder a meysydd fel S4C.

Cwtogi lles

Mynnodd George Osborne fod ei dro pedol yn arwydd ei fod yn gwrando ar etholwyr – gan wadu bod ei gyhoeddiad ddoe yn ymgais i sefydlu’i hun fel y ceffyl blaen i olynu David Cameron fel Prif Weinidog.

“Dw i ddim yn meddwl ei fod e’n wendid, os ydych chi’n gwneud y swydd yma, i wrando ar bobl a gwrando ar y pryderon gafodd eu codi,” meddai’r Canghellor wrth Good Morning Britain.

Ychwanegodd fodd bynnag ei fod yn bwriadu torri £12bn o wariant lles erbyn 2020 fodd bynnag.

“Mae’r ddadl wedi cael ei gyflwyno i mi, a hwnnw oedd ‘beth am helpu teuluoedd wrth i ni symud i’r economi cyflogau uwch, llai o les yma, beth am gymryd mwy o amser i gyrraedd yno’,” meddai Osborne.

“Dyna beth wnes i [gyda chyhoeddiadau] ddoe.”

Dadlau dros y llyfr coch

Yn y cyfamser mae canghellor yr wrthblaid John McDonnell wedi amddiffyn ei benderfyniad i ddyfynnu o lyfr coch y Cadeirydd Mao yn y drafodaeth seneddol ddydd Mercher.

Ar ôl taflu’r copi tuag at George Osborne cafodd ei wawdio gan y Canghellor, gyda’r Canghellor yn tynnu coes bod yr arweinydd Comiwnyddol wedi arwyddo’r copi yn bersonol i’r gwleidydd Llafur.

Mynnodd John McDonnell fodd bynnag mai ceisio tynnu sylw at y ffaith bod George Osborne yn “gwerthu asedau Prydeinig i China” oedd y bwriad, a’i fod wedi ceisio cyffroi trafodaeth oedd fel arfer yn “ddiflas tu hwnt”.

Dywedodd Osborne bod y llyfr bellach ar ei ddesg yn y Trysorlys.

“Dw i wastad yn meddwl ei bod hi’n bwysig gwybod beth mae eich gwrthwynebwyr gwleidyddol yn meddwl ac yn darllen,” ychwanegodd Osborne.