David Cameron
Fe fydd David Cameron heddiw yn dadlau’i achos dros ehangu’r ymosodiadau awyr ar gadarnleoedd y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog ddweud wrth Aelodau Seneddol bod IS yn cynllwynio ymosodiadau brawychol yn erbyn y DU o’i gadarnleoedd yn Syria ac na ddylid caniatáu i IS gael “hafan ddiogel” yno er mwyn dod yn fwy peryglus.

Fe fydd yn dweud na ddylai gwledydd eraill wynebu’r “baich a’r risgiau” o dargedu IS yn Syria “er mwyn dod a brawychiaeth yma ym Mhrydain i ben.”

Mae’r Prif Weinidog wedi rhoi addewid i amlinellu ei strategaeth i fynd i’r afael ag IS mewn ymateb i adroddiad gan Bwyllgor Materion Tramor y Senedd, a oedd wedi codi pryderon ynglŷn â gweithredu milwrol pellach.

Mae’r ymosodiadau ym Mharis wedi cynyddu’r pwysau ar David Cameron i weithredu ac fe allai pleidlais ar y mater gael ei chynnal mor fuan ag wythnos nesaf.

Ond mae’r Prif Weinidog wedi dweud na fydd yn cynnal pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin oni bai ei fod yn gwbl sicr y byddai’n cael cefnogaeth y mwyafrif.