The Smiler yn Alton Towers
Cafodd damwain ar atyniad The Smiler yn Alton Towers ei achosi gan “gamgymeriad dynol” yn ôl perchennog y parc, Merlin Entertainments.

Bydd The Smiler yn ail-agor y flwyddyn nesaf.

Cafodd 16 o bobol eu hanafu i gyd pan wnaeth un o gerbydau’r atyniad wrthdaro ag un arall ar 2 Mehefin eleni.

Fe gollodd Leah Washington, sy’n 17 oed o Barnsley, Swydd Efrog, ei choes wedi’r ddamwain a chafodd pedwar o bobl eraill eu hanafu’n ddifrifol.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni nad oedd y mesurau diogelwch priodol wedi cael eu dilyn ond nad oedd  problemau ‘technegol na mecanyddol’ ar  The Smiler.

“Roedd yr ymchwiliad hefyd wedi nodi meysydd lle gellir gwella mesurau  a hyfforddiant y staff. Doedd dim problemau technegol na mecanyddol wedi cael eu canfod gyda’r atyniad ei hun,” meddai’r datganiad.