Sharm el-Sheikh, yn yr Aifft
Mae EasyJet wedi canslo teithiau i Sharm el-Sheikh hyd at 6 Ionawr, 2016, yn dilyn ffrwydro’r awyren o Rwsia.

Dywedodd y cwmni awyrennau ei fod wedi gwneud y penderfyniad i barhau gyda’r gwaharddiad ar hediadau i’r ganolfan wyliau yn yr Aifft er mwyn rhoi sicrwydd i gwsmeriaid oedd yn trefnu gwyliau dros y Nadolig.

Fe allai cwsmeriaid sydd eisoes wedi prynu tocynnau i deithio i Sharm el-Sheikh gael ad-daliad llawn, dewis hedfan i leoliad arall neu gael taleb i’w ddefnyddio yn y dyfodol, meddai’r cwmni.

Dywed EasyJet y dylai cwsmeriaid yn Sharm el-Sheikh sy’n dymuno hedfan yn ôl i’r DU gysylltu gydag adran gwsmeriaid y cwmni.

Mae’r cwmni wedi ymddiheuro am yr “anghyfleustra”.

Roedd y Llywodraeth wedi gwahardd teithiau i Sharm el-Sheikh ar 4 Tachwedd ar ôl i awyren Metrojet o Rwsia daro’r ddaear, gan ladd 224 o bobl.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am ffrwydro bom ar yr awyren.