David Cameron
Mae David Cameron wedi bod yn amlinellu cynlluniau gwariant y Llywodraeth ar amddiffyn yn Nhŷ’r Cyffredin prynhawn ma.

Fe gyhoeddodd y bydd £178 biliwn yn cael ei wario ar offer a chymorth dros y degawd nesaf.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys sefydlu dau lu arbennig gyda hyd at 10,000 o filwyr a fyddai’n gallu gweithredu ar unwaith i helpu’r heddlu er mwyn ymateb i ymosodiadau tebyg i’r rhai ym Mharis dros wythnos yn ôl.

Bydd Prydain hefyd yn prynu naw awyren patrôl morwrol a fydd wedi’u lleoli yn safle’r Awyrlu yn Lossiemouth. Fe fyddan nhw’n gallu cludo torpidos a bydd ganddyn nhw’r gallu i chwilio am longau tanfor a llongau.

Costau Trident wedi cynyddu £6bn

Datgelodd y Llywodraeth hefyd y gallai’r gost o adnewyddu’r llongau tanfor sy’n cludo arfau niwclear Trident godi i £40 biliwn.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn bellach yn amcangyfrif y byddai’r gost o brynu pedwar llong danfor yn £31 biliwn dros gyfnod o 20 mlynedd – o’i gymharu ag amcangyfrif blaenorol o £25 biliwn.

Mae £10 biliwn ychwanegol wedi’i roi i un ochr i gwrdd â chostau annisgwyl.

Fe gyhoeddwyd eisoes y bydd lluoedd arbennig fel yr SAS  yn cael £2 biliwn ychwanegol i wella’u hoffer, bydd yr Awyrlu yn dyblu nifer ei dronau, a bydd £1.9 biliwn ychwanegol yn cael ei wario ar wella diogelwch seibr ynghyd a recriwtio 1,900 o ysbiwyr newydd.

Dywed David Cameron y bydd yn sicrhau bod gan y lluoedd arfog adnoddau digonol ar gyfer y 10 mlynedd nesaf.

Mae Adolygiad Amddiffyn Strategol ac Adolygu Diogelwch (SDSR) y Llywodraeth hefyd yn dweud y bydd gweithlu sifil y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cael ei gwtogi o bron i 30% i 41,000 dros y pum mlynedd nesaf, gyda rhai gwasanaethau yn cael eu gwneud gan gwmnïau preifat.

Ymosod o’r awyr ar IS

Yn y cyfamser mae David Cameron wedi rhoi addewid i amlinellu “strategaeth gynhwysfawr” ar gyfer mynd i’r afael a’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) ddydd Iau, a fydd yn cynnwys ymosodiadau o’r awyr gan Brydain ar gadarnleoedd y grŵp eithafol yn Syria.

Fe gadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai’n dod i’r Senedd i “ddadlau’r achos” dros weithredu milwrol ehangach ar ôl cynnal trafodaethau gydag Arlywydd Ffrainc Francois Hollande yn gynharach heddiw yn sgil yr ymosodiadau ym Mharis.

“ Fe fyddaf yn esbonio sut y bydd y gweithredu yn un elfen o strategaeth gynhwysfawr a thymor hir i drechu IS ynghyd ag ymdrech ryngwladol i ddod a diwedd i’r rhyfel cartref yn Syria,” meddai David Cameron.