Mae disgwyl i David Cameron gyhoeddi heddiw y bydd £12 biliwn ychwanegol yn cael ei roi ar gyfer adnoddau milwrol.

Fe fydd y Prif Weinidog yn gwneud y cyhoeddiad wrth iddo amlinellu cynlluniau gwariant y Llywodraeth ar amddiffyn yn Nhŷ’r Cyffredin prynhawn ma.

Bydd Prydain yn prynu fflyd newydd o awyrennau  patrôl morwrol ac yn creu dwy frigâd gyda hyd at 5,000 o filwyr a fydd yn gallu ymateb ar unwaith i ddigwyddiadau rhyngwladol.

Dywed David Cameron y bydd yn sicrhau bod gan y lluoedd arfog  offer digonol ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Cafodd gwariant ar amddiffyn hwb yng Nghyllideb George Osborne ar ôl iddo ddod dan bwysau i gyhoeddi y bydd y DU yn parhau i gwrdd â tharged Nato o wario o leiaf 2% o gyfoeth y wlad ar amddiffyn.

Fe gyhoeddwyd eisoes y bydd y SAS a lluoedd arbennig eraill yn cael £2 biliwn ychwanegol i wella’u hoffer, bydd yr Awyrlu yn dyblu nifer ei dronau, a bydd £1.9 biliwn ychwanegol yn cael ei wario ar wella diogelwch seibr ynghyd a recriwtio 1,900 o ysbiwyr newydd.

Mae undebau’n pryderu y bydd y strategaeth yn golygu toriadau mawr i weithlu sifil y Weinyddiaeth Amddiffyn gyda rhai’n awgrymu y gall hyd at 12,000 o staff gael eu heffeithio.