(Llun: PA)
Mae’r Trysorlys wedi cadarnhau y bydd pensiwn y wladwriaeth yn codi i £119.30 yr wythnos o fis Ebrill nesaf ymlaen.
Fe fydd y Canghellor George Osborne yn tynnu sylw at y cynnydd o £570 y flwyddyn yn ei Ddatganiad Hydref yr wythnos nesaf.
Mae’r cynnydd hwn o 2.9% yn seiliedig ar y cynnydd cyfatebol mewn cyflogau ar gyfartaledd.
Meddai’r Gweinidog Pensiynau Ros Altmann:
“Dros y chwarter canrif ddiwethaf, mae pensiynwyr wedi gwneud yn salach na gweddill cymdeithas gan fod cyfartaledd cyflogau wedi codi llawer mwy na phensiwn y wladwriaeth.
“Ers 2010, rydym wedi cychwyn cywiro hynny, ac rydym bellach yn ôl ar y lefel uchaf ers chwarter canrif.
“Mae pensiynwyr yn haeddu cael eu trin yn llawer gwell nag a gawson nhw yn y gorffennol a chael sicrwydd ar ôl ymddeol.”