Clirio eira ym mhentref Nenthead yn Cumbria y bore yma (llun: Owen Humphreys/Gwifren PA)
Mae mynyddoedd Eryri’n wyn y bore yma ar ôl i eira ddisgyn mewn rhannau helaeth o Brydain dros nos.

Dywed y Swyddfa Dywydd fod y cawodydd eira wedi ymestyn o’r Alban yr holl ffordd i lawr i Sussex a Caint yn ne Lloegr, ond bod disgwyl i’r eira droi’n law yn y rhan fwyaf o leoedd.

Yn ogystal â rhannau o’r Alban, mae Swydd Efrog a Cumbria yng ngogledd Lloegr ymysg yr ardaloedd sydd wedi cael eu taro waethaf.

Gyda rhagolygon o’r tymheredd yn disgyn i minws 3 gradd C heno. mae rhybuddion am beryglon o rew ar y ffordd fore yfory.

Er bod y tywydd yn sylweddol oerach na’r cyfartaledd arferol ar gyfer mis Tachwedd, mae disgwyl i’r tywydd mwyn a gwlyb ddychwelyd ddechrau’r wythnos.

Yn y cyfamser, mae cynghorau wedi bod yn pentyrru 1.2 milwn tunnell o halen ar gyfer y tywydd garw, gydag adroddiadau fod storfeydd hanner cynghorau Prydain yn llawn i’r ymylon.