Mae Brenhines Lloegr wedi teithio i Birmingham heddiw i ailagor gorsaf drenau, a hynny gyda diogelwch yn amlycach nag arfer oherwydd y bygythiad gan Isis.

Aeth y Frenhines i Birmingham ar ei thrên brenhinol i ailagor gorsaf New Street yng nghanol y ddinas, sydd wedi ei ailadeiladu a’i adnewyddu ar gost o £750m.

Roedd tîm o saethwyr snipers yr heddlu yn nythu mewn adeiladau cyfagos er mwyn gwarchod Ei Mawrhydi, a fu’n gwisgo pinc ar gyfer ei hymweliad â chanolbarth Lloegr.