Mae dyn o Ffrainc yn y ddalfa, wedi i heddlu ei ddal gydag arf ym Maes Awyr Gatwick.

Roedd y lle’n anhrefn ben bore heddiw, wedi i Derfynnell y Gogledd gael ei gwagio am 9.30yb wedi i Heddlu Sussex weld dyn 41 mlwydd oed yn “ymddwyn yn amheus”. Roedd wedi taflu rhywbeth i mewn i fun sbwriel cyn mynd trwy’r drefn ddiogelwch.

Fe ddaeth uned difa bomiau yno a chynnal ffrwydriad, gan ddod o hyd wedyn i’r hyn “sy’n ymddangos yn arf” ac sydd wedi’i gymryd i’r labordy am brofion fforensig.