Mae Diwrnod Plant Mewn Angen wedi torri ei record ei hun wrth godi arian yn ystod noson o adloniant ar y BBC neithiwr.

Mae dros £37m wedi’i godi hyd yn hyn, sy’n fwy na’r £32.6m a godwyd y llynedd.

Fe aeth y rhaglen ymlaen tan 2 o’r gloch y bore, gyda pherfformiadau gan Selena Gomez a’r band Years and Years, yn ogystal ag apêl gan y canwr o Drefforest, Tom Jones.

Fe gafodd y diwrnod ei sefydlu yn 1980, ond ddaeth yr arth felen, Pudsey, ddim yn rhan o’r digwyddiad blynyddol tan 1985.