Plant Mewn Angen 2013
Fydd Syr Terry Wogan ddim yn cyflwyno rhaglen Plant Mewn Angen heno, a hynny am y tro cyntaf ers iddi ddechrau nôl yn 1980.

Dywedodd y BBC fod y darlledwr 77 oed wedi gorfod tynnu nôl am resymau yn ymwneud â’i iechyd, gan ei fod wedi bod yn cael problemau â’i gefn a bod doctoriaid ddim yn awyddus iddo gyflwyno rhaglen sydd yn para chwe awr a hanner.

Bydd y noson godi arian blynyddol, fydd yn cael ei chynnal am y 36ain gwaith eleni, yn dechrau am 7.30 ar BBC One heno.

Disgwyl cyflwynydd newydd

“Fe fydd y cyhoedd Prydeinig, fel arfer, yn twrio’n ddwfn i’w pocedi er mwyn rhoi cymorth i blant difreintiedig y wlad, gan wybod fod pob ceiniog yn mynd i’r rheiny sydd ei angen fwyaf,” meddai Terry Wogan.

“Fe fydda i’n methu ein noson wych sydd wastad yn codi’r ysbryd, ond fe fydda i gyda chi’n gwylio, dathlu a chyfrannu at achos arbennig.”

Gwyddel arall, y cyflwynydd Dermot O’Leary, fydd yn llenwi esgidiau Terry Wogan, ac mae Tess Daly, Rochelle Humes, Nick Grimshaw a Fearne Cotton eisoes yn rhan o’r tîm cyflwyno ar y noson hefyd.

Ers y rhaglen gyntaf nôl yn 1980 mae Plant Mewn Angen a’i arth adnabyddus Pudsey wedi codi bron i £800m ar gyfer elusennau plant ym Mhrydain.

Storm yn stopio Scott

Nid Terry Wogan yw’r unig un sydd wedi gorfod newid ei gynlluniau ar gyfer y noson chwaith.

Mae’r cyflwynydd Radio 1 Scott Mills bellach wedi gorfod newid lleoliad ei abseil noddedig o Dŵr Blackpool i’r ArcelorMittal Orbit ym Mharc Olympaidd Llundain oherwydd y tywydd gwael yn sgîl Storm Abigail.

Heno mae disgwyl i One Direction, Helen Mirren, David Tennant, Martin Freeman ac Ellie Goulding gamu ar y sgrin.

Fe fydd sgets arbennig o Star Wars yn cael ei pherfformio yn ogystal â golwg unigryw ar hanes teledu gan y digrifwr Harry Hill, a phennod arbennig o Strictly Come Dancing gydag actorion Call The Midwife.