Prif Weinidog India, Narendra Modi
Mae David Cameron wedi croesawu Prif Weinidog India Narendra Modi i Downing Street gan addo cryfhau’r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad.

Dyma’r tro cyntaf i Brif Weindiog o India ymweld â’r DU ers degawd.

Fe wnaeth y ddau ysgwyd llaw ar risiau Rhif 10 cyn mynd i mewn ar gyfer trafodaethau gyda’u gweinidogion. Bu Narendra Modi yn annerch y Senedd y prynhawn ma.

Dywedodd David Cameron wrth Narendra Modi  fod “cysylltiadau rhwng ein pobloedd eisoes yn gryf iawn” ond ei fod eisiau cryfhau agweddau eraill o’r bethynas.

Fe gyhoeddwyd bod Prydain wedi cytuno ar bartneriaeth pum mlynedd gydag India i helpu i ddatblygu dinasoedd Amravati, Indore a Pune.

Mae disgwyl i Narendra Modi gwrdd â’r Frenhines ym Mhalas Buckingham yn ystod ei ymweliad.

Yn y cyfamser mae cytundebau masnachol gwerth £9 biliwn wedi cael sel bendith yn ystod yr ymweliad.

Mae David Cameron wedi dweud fod yr ymweliad yn “gyfle hanesyddol” i’r ddwy genedl a dywedodd  Narendra Modi  mai’r nod yw “cryfhau cydweithrediad” rhwng y ddwy wlad.

Protestiadau

Cyrrhaedodd Narendra Modi ar droed trwy’r Swyddfa Dramor er mwyn osgoi protestiadau swnllyd oedd yn digwydd y tu allan.

Mae mwy na 200 o awduron gan gynnwys Ian McEwan, Salman Rushdie a Val McDermid, wedi ysgrifennu llythyr agored at y Prif Weinidog yn galw arno i godi pryderon am ryddid mynegiant yn India yn ystod ei drafodaethau gyda Narendra Modi.

Mae’r llythyr wedi cael ei arwyddo gan aelodau a chefnogwyr y gymdeithas o awduron sydd o blaid rhyddid mynegiant, PEN Rhyngwladol.

Mae’n dilyn cyfres o ddigwyddiadau yn erbyn awduron ym Mangladesh eleni.