M
ae un o bob 10 o bobl 70-74 oed ym Mhrydain mewn swyddi cyflogedig ar hyn o bryd.

Mae hyn fwy na dwywaith yr hyn oedd 10 mlynedd yn ôl, a’r nifer uchaf ers i gofnodion cymharol gychwyn yn 1984.

Yn ôl ystadegau’r Adran Gwaith a Pensiynau, mae dros chwarter miliwn o bobl 70-74 oed yn cael eu cyflogi bellach, o gymharu â 123,000 yn 2005.

Mae’r naid yn rhan o gynnydd ehangach yn y nifer o bobl 50 a hŷn sy’n dal mewn gwaith.

Er bod hyn i’w briodoli’n rhannol i newidiadau demograffig, mae’r twf mewn cyfraddau cyflogaeth yn dangos bod y nifer o bobl dros 50 sydd mewn gwaith yn cynyddu’n gyflymach na’r twf ym mhoblogaeth gyffredinol y grŵp oedran hwn.