Y Prif Weinidog David Cameron (llun: PA)
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi addo y bydd cysylltiad band llydan cyflym ar gael i bob cartref a busnes yn y Deyrnas Unedig erbyn 2020.

Mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno Ymrwymiad Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer band llydan, a fydd yn rhoi hawl gyfreithiol i’r cyhoedd fynnu cysylltiad ‘fforddiadwy’, fel gyda gwasanaethau sylfaenol eraill fel dŵr a thrydan.

Y nod yw sicrhau y bydd cysylltiad ac iddo gyflymder o 10 megabit yr eiliad o leiaf ar gael ym mhobman.

“Ni ddylai mynediad i’r rhyngrwyd gael ei ystyried fel moethusrwydd; dylai fod yn hawl, fel rhywbeth sy’n gwbl hanfodol i fywyd ym Mhrydain yn yr 21ain ganrif,” meddai David Cameron.

“Yn union fel y gwnaeth ein cyndadau ddod â nwy, trydan a dŵr i bawb, byddwn ni’n dod â band llydan cyflym i bob cartref a busnes a fydd ei eisiau.

“Rydym yn rhoi  Prydain – pob rhan o Brydain – ar-lein, ac ar y ffordd i ddod yr economi fwyaf ffyniannus yn Ewrop gyfan.”

Yn ôl swyddogion y Llywodraeth, mae band llydan cyflym ar gael i 83% o gartrefi a busnesau ym Mhrydain ar hyn o bryd, ac mae disgwyl i’r nifer godi i 95% erbyn 2017.