MI5
Mae’n ymddangos bod  gwasanaeth cudd MI5 wedi bod yn cadw cofnodion o holl alwadau ffôn pobl ym Mhrydain ers ‘dros ddegawd’.

Fe ddaeth y newyddion i’r amlwg wrth i’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May amlinellu deddf newydd a fydd yn caniatáu awdurdodau i gofnodi gweithgarwch pobl ar y we heb warant.

Dywedodd mewn datganiad i Dŷ’r Cyffredin bod y gwasanaeth cudd wedi defnyddio Deddf Telegyfathrebu 1984 i weld data cwmnïau cyfathrebu, gan gynnwys cofnodion o alwadau ffôn.

Yn ôl gohebydd diogelwch y BBC, roedd yr hyn oedd MI5 yn ei wneud ‘mor gyfrinachol’ fel mai  ‘nifer fach iawn o bobl yn MI5’ yn unig oedd yn gwybod amdano.

Roedd MI5 yn casglu data drwy gofnodi galwadau ffôn, gan nodi pwy oedd y cyswllt yn hytrach na’r hyn oedd yn cael ei ddweud.

Mae’r llywodraeth wedi cyflwyno Deddf Pwerau Ymchwiliol drafft , sy’n cael ei adnabod yn anffurfiol fel y ‘Ddeddf Sbecian’.

O dan y ddeddfwriaeth newydd, bydd hanes gweithgarwch ar-lein Prydeinwyr yn cael ei storio a bydd ar gael i wasanaethau diogelwch ei ddefnyddio am hyd at flwyddyn.

Bydd yn rhoi’r hawl i’r heddlu a swyddogion cudd i weld pa wefannau mae unigolion wedi ymweld â nhw (ond nid y tudalennau penodol) heb warant.