Mae nifer o bobol wedi’u hanafu mewn gwrthdrawiad rhwng bws a char ar gylchfan yn yr Alban.
Roedd beth bynnag naw o bobol ar y bws Stagecoach a fu mewn gwrthdrawiad gyda char toc wedi 10yb heddiw. Fe ddigwyddodd ar gylchfan ar ffordd yr A78 yng ngogledd Ayrshire.
Y gred ydi mai un person oedd yn teithio yn y car.
Dyw hi ddim yn glir eto faint o bobol sydd wedi’u hanafu, ond mae rhai pobol wedi cael eu cludo i Ysbyty Brenhinol Inverclyde neu i Ysbyty Crosshouse.