Mae cwmni gwneud bwyd babi wedi tynnu’i gynnyrch oddi ar silffordd y siopau, wedi iddyn nhw dderbyn cwynion fod pryfed wedi’u canfod mewn mwsli.

Mae Cow & Gate wedi galw’n ol eu cynnyrch ‘Sunny Start My First Banana Muesli’ ar gyfer babanod 10 mis oed. Mae’r cwmni wedi ymddiheuro, ac wedi rhybuddio rhieni i beidio â rhoi’r bwyd sydd â’r dyddiad Medi 27 2016 arno, i’w plant.

“Dydi’r bwyd hwn ddim yn ffit i bobol ei fwyta oherwydd fod yna bethau dieithr fel pryfed ynddo,” meddai datganiad gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd heddiw.

“Mae Cow & Gate wedi galw’r cynnyrch i mewn.”

Ar ei dudalen Twitter, mae Cow & Gate yn dweud iddyn nhw dderbyn “nifer bychan” o gwynion am y cynnyrch hwn, gan bwysleisio nad oedd yr un o’i gynnyrch eraill wedi’u heffeithio.