Mae dyn 41 oed wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth yn Sir Lincoln.
Mae Audrius Zauka, o Boston wedi cael ei gadw yn y ddalfa, a’r disgwyl ydi y bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Lincoln heddiw.
Mae wedi’i gyhuddo o lofruddio Sigitas Kirkickas, 53, a ganfuwyd yn farw yn Boston ar Hydref 23.
Mae dyn a dynes a gafodd eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bo ymchwiliadau’r heddlu yn parhau.