David Cameron
Fe fydd Prif Weinidog Prydain, David Cameron yn teithio i Wlad yr Iâ heddiw, lle mae disgwyl iddo ddadlau o blaid newid perthynas y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl iddo ddweud wrth gyfarfod o gynrychiolwyr o wledydd gogledd Ewrop y byddai trefniant mwy llac fel sydd gan Norwy yn golygu y byddai’n rhaid rhoi arian i Frwsel ac na fyddai’n datrys yr argyfwng mewnfudwyr, pe baen nhw’n penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r fath berthynas yn bodoli eisoes â Norwy, nad yw’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd cynrychiolwyr o wledydd megis Gwlad yr Iâ a Norwy, nad ydyn nhw’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd ond sy’n rhan o’r farchnad sengl, yn bresennol yn y cyfarfod. Mae gwledydd o’r fath yn talu oddeutu 600 miliwn Ewro (£432 miliwn) y flwyddyn i’r Undeb Ewropeaidd.

‘Model ar gyfer y DU’

Fe fydd Cameron yn mynychu cyfarfod o Fforwm Dyfodol y Gogledd, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Wlad yr Iâ, Norwy, Denmarc, Estonia, Y Ffindir, Latfia, Lithwania a Sweden.

Mae Norwy yn cael ei hystyried gan rai i fod yn fodel ar gyfer y DU pe bai’n gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond mae hi’n derbyn tri chwarter o reolau’r Undeb Ewropeaidd heb fod ganddi lais ym mhenderfyniadau Brwsel, yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain.

Yn ôl y llefarydd, nid oes gan Norwy yr hawl i wrthod mesurau Cyngor Ewrop, does ganddi ddim pleidlais yng nghyngor gweinidogion yr Undeb Ewropeaidd, dim un Aelod Seneddol Ewropeaidd a dim Comisiynydd Ewropeaidd.

Mae Norwy hefyd yn rhoi rhwydd hynt i fewnfudwyr symud i mewn ac allan ac felly, fe fyddai polisi tebyg yn y DU yn annhebygol o leihau nifer y mewnfudwyr, yn ôl y llefarydd.

Roedd y farn hon wedi’i hategu gan is-lywydd Comisiwn Ewrop, Frans Timmermans yn ystod cyfweliad ar raglen Today BBC Radio 4.

Mae disgwyl i’r cyfarfodydd y bydd Cameron yn eu mynychu ganolbwyntio ar y diwydiannau creadigol ac arloesi o fewn gwasanaethau cyhoeddus.