Mae ymchwiliad ar y gweill, wedi i ddyn gael ei ladd mewn tân yn ei gartre’ yn Lloegr.

Bu farw’r dyn yn ardal Tickhill, Doncaster, De Swydd Efrog, am 9.30yh neithiwr, tra bod Gwasanaeth Tân ac Achub De Swydd Efrog wedi cadarnhau fod dynes wedi llwyddo i ddianc o’r fflamau.

Fe gafodd tair injan dân eu galw i’r digwyddiad, ac mae ymchwiliad bellach ar droed er mwyn ceisio cadarnhau beth oedd achos y tân.