Mae mam a aeth ar goll o’r ysbyty, gan adael ei babi newyddanedig yno, wedi cael ei chanfod yn ddiogel.
Fe adawodd Anna Chudy ysbyty Northwick Park yn Harrow, gogledd-orllewin Llundain, ddydd Gwener, ddiwrnod yn unig wedi iddi roi genedigaeth i’w mab bach.
Fe gyhoeddodd yr heddlu luniau teledu cylch-cyfyng o’r wraig 35 mlwydd oed, mewn ymgais i geisio dod o hyd iddi.
“Mae Anna Chudy yn ddiogel ac yn iach,” meddai datganiad gan yr heddlu.