Mae sesiwn hyfforddi yn cynnwys mwy na 900 o filwyr Prydain ysgwydd ag ysgwydd â milwyr y cynghreiriaid wedi digwydd yng ngwlad Pwyl.

Fe symudodd y fyddin Brydeinig ei milwyr ar draws Ewrop i ymuno ag Ymarfer Dragon 15 ar wastadtir gogledd-ddwyrain Gwlad Pwyl, rhyw 60 milltir o’r ffin â Rwsia.

Anfonwyd milwyr ynghyd â thanciau i ymuno â’r 6,000 o Bwyliaid, Almaenwyr a milwyr o Ganada sydd hefyd yn cymryd rhan yn y sesiwn ymarfer a fydd yn para saith wythnos.