Mae dyn cenfigennus wedi ei garcharu am oes ar ôl iddo drefnu i rywun arall daflu asid am ben ei gyn-gariad.

Fe gollodd Adele Bellis, 23, ei chlust a rhan o’i gwallt oherwydd yr ymosodiad, ac mae ganddi greithiau am oes wedi i’w chyn-gariad drefnu bod asid yn cael ei daflu drosti yn Lowestoft yn Suffolk ym mis Awst y llynedd.

Mae Anthony Riley, 26, wedi ei garcharu am oes – ni chaiff ei ryddhau am o leia’ 13 mlynedd.

Pum mis cyn yr ymosodiad gyda’r asid roedd Riley wedi trefnu bod un o’i gyfeillion yn defnyddio cyllell i drywanu Adele Bellis yn ei hwyneb.

Fe glywodd Llys y Goron Ipswich bod Riley yn benderfynol o reoli ac anharddu Adele Bellis.

Yn ôl y Barnwr John Devaux roedd Riley wedi penderfynu gwneud yn siŵr na fyddai’r un dyn arall eisiau Adele Bellis.

“Fe ddioddefodd hi losgiadau cemegol anferthol. Roedd ei hanafiadau yn frawychus,” meddai’r Barnwr.