Gweddillion awyren Lockerbie (Llun Llywodraeth)
Mae teuluoedd y rheiny a gafodd eu lladd yn ffrwydrad Lockerbie 27 mlynedd yn ôl wedi croesawu cyhoeddiad erlynwyr yn yr Alban eu bod wedi nodi dau berson arall a alali fod yn rhan o’r cynllwyn.

Bu farw 270 o bobol pan ffrwydrodd awyren Pan Am 103 dros Lockerbie yn 1988 wrth hedfan o Lundain i Efrog Newydd, ond hyd yn hyn dim ond un dyn – Abdelbaset al-Megrahi – sydd wedi cael ei ddedfrydu am y drosedd.

Mae erlynwyr yn yr Alban nawr yn dweud eu bod yn awyddus i holi dau berson arall o Libya y maen nhw’n eu hamau o fod yn rhan o’r cynllun.

Cafodd Abdelbaset al-Megrahi ei ryddhau o’r carchar gan Lywodraeth yr Alban oherwydd afiechyd yn 2009 ac fe fu farw yn 2012 yn mynnu o hyd ei fod yn ddieuog.

Gofyn am gymorth Libya

Mae swyddogion o’r Alban a’r FBI yn yr UDA eisoes wedi gofyn am gymorth yr awdurdodau yn Libya er mwyn ceisio dod o hyd i’r ddau berson maen nhw’n eu hamau.

Dros y blynyddoedd mae nifer o honiadau wedi cael eu gwneud yn codi amheuon am euogrwydd al-Megrahi ac mae rhai wedi awgrymu mai llywodraeth Libya o dan Muammar Gaddafi oedd yn gyfrifol.

Fe fydd yn anodd iawn i awdurdodaur Alban a’r Unol Daleithiau gynnal eu hymchwiliad gan fod Libya ar hyn o bryd yn cael ei rhannu gan ryfel cartref.

‘Balch iawn’

Dywedodd Susan Cohen o New Jersey, a gollodd ei merch 20 oed Theodora yn y trychineb, eu bod yn “falch iawn” bod awdurdodau o’r diwedd yn edrych yn ehangach.

“Dw i eisiau gwneud hi’n glir fy mod i’n meddwl mai Megrahi oedd yn gyfrifol ond fe gafodd ei achos ei drin yn rhy gul,” meddai.

“Mae llywodraethau wedi bod yn llusgo’u traed ac fe ddylen nhw fod wedi bod yn chwilio am eraill oedd yn rhan o hyn – nid dim ond Megrahi oedd e.”