Ffoaduriaid yn cyrraedd ynys Lesbos yng Ngwlad Groeg
Mae mwy na 300 o gyfreithwyr wedi arwyddo datganiad sy’n beirniadu ymateb y Llywodraeth i argyfwng ffoaduriaid Syria.

Mae’r Arglwydd Phillips o gwmni Worth Matravers, a chyn-lywydd y Goruchaf Lys, wedi ymuno a chyfreithwyr eraill i arwyddo’r llythyr agored, sy’n dweud bod cynnig Llywodraeth Prydain i ail-gartrefu 20,000 o ffoaduriaid dros y pum mlynedd nesaf yn “annigonol”.

Mae’r datganiad hefyd yn galw am ddileu “system Dulyn”, sy’n golygu bod ceiswyr lloches yn gorfod gwneud cais am loches yn y wlad gyntaf maen nhw’n ei chyrraedd o fewn yr Undeb Ewropeaidd.