Mae carreg fedd yn nodi lle cafodd mynach ei roi i orwedd yn Swydd Nottingham yn y 14eg ganrif, wedi’i chanfon mwy na chan milltir i ffwrdd.

Mae carreg Robert de Markham yn dyddio o tua 1399, ac fe gafodd ei gosod yn llawr capel Abaty Rufford, cyn i’r lle gael ei ddymchwel yn y 1950au. Doedd neb yn gwybod beth ddigwyddodd i’r garreg wedyn, nes i rywun ddod o hyd iddi mewn stordy gan fudiad English Heritage yn Wrest Park, Swydd Bedford.

“Mae’r garreg hon yn un o gerrig beddi canoloesol gorau Prydain,” meddai’r archeolegwr Peter Ryder.

“Mae’n nodi’r Brawd Robert Markham ‘o’r mynachdy hwn’ ac mae’r dyddiad arni’n glir, 1399, er bod rhai pobol wedi camddarllen y dyddiad i fod yn 1309 neu 1329.

“Mae gan y garreg hon dipyn o stori, ac mae meddwl fod gan fynach garreg mor hardd a chelfydd yn awgrymu y gallai o fod yn perthyn i deulu o bwys.”