Mae arbenigwyr difa bomiau wedi cynnal sawl ffrwydriad yn ninas Derry, wedi i “ddyfais bosib” gael ei chanfod mewn gwesty oedd yn cynnal digwyddiad i recriwtio plismyn.

Mae Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon wedi cadarnhau mai’r gred ar y dechrau oedd mai joc oedd y ddyfais yng ngerddi’r gwesty, ond wedi mwy o ymchwilio, fe ganfuwyd ei bod hi’n ddyfais a allai weithredu fel bom.

“Roedd gan y ddyfais y potensial i anafu a gwneud difrod i unrhyw un neu unrhyw beth yn yr ardal,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Mae’r rheiny oedd yn gyfrifol am ei gosod yno wedi amharchu bywydau pobol, ac rydan ni yn falch iawn ac yn ddiolchgar bod ymosodiad wedi gallu cael ei rwystro.

“Yn amlwg,” meddai’r llefarydd, “mae yna bobol allan yna o hyd syn benderfynol o dargedu gwasanaeth yr heddlu ac o niweidio ein cymunedau.”