Y diweddar Arglwydd Howe o Aberafon
Bu farw Geoffrey Howe, Arglwydd Howe o Aberafon, yn 88 mlwydd oed.

Geoffrey Howe oedd y gweinidog a dreuliodd y cyfnod hwya’ yng nghabinet Thatcher. Fe fu’n Ganghellor y Trysorlys ar ddechrau cyfnod Margaret Thatcher yn Brif Weinidog Prydain, cyn treulio cyfnodau’n Ysgrifennydd Tramor ac yn Ddirprwy Brif Weinidog.

Ond efallai mai’r hyn sy’n aros yn y cof yw ei araith ymddiswyddo o’r cabinet, yr araith ddaeth â theyrnasiad Thatcher, hithau, i ben yn 1990.

“Gyda thristwch” y cyhoeddodd ei deulu ddatganiad heddiw yn dweud iddo farw yn hwyr neithiwr yn ei gartre’ yn Sir Warwick, a hynny ar ol dychwelyd o gyngerdd jazz lleol yr oedd wedi ei fwynhau gyda’i wraig, Elspeth. Y gred, meddai’r datganiad, ydi iddo farw o ganlyniad i drawiad ar y galon.

“Fe fydd angladd teuluol, preifat, ac fe’i dilynir gan wasanaeth coffa yn ei dro,” meddai’r datganiad wedyn. “Fel arall, mae’r teulu’n gofyn am breifatrwydd ar yr adeg hon.”

Fe’i magwyd, yn blentyn, ym Mhort Talbot, ac fe’i disgrifiai ei hun bob amser fel “chwarter Albanwr, chwarter Cernyw-wr a hanner Cymro”.

“Meddylgar, caredig a thyner” meddai Cameron 

Mae David Cameron, Prif Weinidog Prydain, wedi disgrifio’r Arglwydd Howe fel “dyn meddylgar, caredig a thyner” a barhaodd i gynnig “cyngor cryf a dibynadwy” i wleidyddion y genhedlaeth hon.

“Mae teulu’r Ceidwadwyr wedi colli un o’i mawrion,” meddai David Cameron.

“Er ei fod yn ddyn tyner a charedig, roedd o hefyd yn ddewr ac yn barod i ymladd ei gornel.

“Mae George Osborne a finnau wedi elwa llawer o’i ddoethineb a’i agwedd benderfynol i wella cyflwr y wlad hon.”