Mae lladron yn ne orllewin yr Alban wedi dwyn lori oedd yn cario gwerth £45,000 o fariau brecwast.

Fe lwyddodd y dihirod i ddianc â’r cerbyd o barc loriau Lockerbie yn Johnstonebridge, Dumfries a Galloway, am tua 2.30 fore Iau.

Mae’n debyg bod y lladron wedi cael eu Weetabix y bore hwnnw, gyda Heddlu’r Alban yn dweud ei bod hi’n amlwg eu bod wedi cynllunio’r lladrad yn ofalus.

“Rydym wrthi’n ymchwilio i ladrad o nwyddau gwerth uchel sydd yn amlwg wedi cymryd tipyn o gynllunio,” meddai’r Ditectif Gwnstabl Martin Lumsden.

“Rydym yn archwilio’r dystiolaeth CCTV ac eisiau clywed oddi wrth unrhyw un allai fod wedi bod o gwmpas ardal y parc lori o gwmpas adeg y lladrad, neu yn yr oriau a dyddiau cynt, gan ei bod hi’n bosib fod y rheiny oedd yn gyfrifol wedi bod yno’n rhagchwilio o flaen llaw.

“Gallwch roi gwybodaeth i ni drwy ffonio 101.”