Mae’r Almaenwr Jürgen Klopp wedi cael ei benodi’n rheolwr newydd Lerpwl, yn ôl adroddiadau Sky Sports.

Mae lle i gredu bod cyn-reolwr Borussia Dortmund wedi arwyddo cytundeb tair blynedd.

Mae’n olynu cyn-reolwr Abertawe, Brendan Rodgers a gafodd ei ddiswyddo yn dilyn gêm ddarbi gyfartal 1-1 yn erbyn Everton ddydd Sul diwethaf.

Mae Klopp yn awyddus i benodi Zeljko Buvac a Peter Krawietz i’w dîm hyfforddi, ar ôl gweithio gyda’r ddau yn Dortmund.

Fe fydd nifer o aelodau o dîm cynorthwyol Rodgers hefyd yn gadael y clwb, gan gynnwys Sean O’Driscoll a Gary McAllister a gafodd eu penodi dri mis yn ôl, yn dilyn y penderfyniad i ddiswyddo Mike Marsh a chyn-hyfforddwr Abertawe, Colin Pascoe.

Y ddau arall fydd yn gadael yw Chris Davies a Glen Driscoll, oedd wedi symud o’r Liberty gyda Rodgers yn dilyn ei benodiad yn 2012.

Enw priodol y rheolwr newydd

A fu enw mor addas ar gyfer rheolwr a fydd yn ceisio darbwyllo cefnogwyr y Kop mai fe yw’r dyn i godi Lerpwl unwaith eto?

Mae Press Association wedi creu rhestr o dimau sydd wedi arwyddo chwaraewyr a rheolwyr ag enwau addas i’w clybiau nhw.

Dyma rai o’r goreuon:

Wolfgang Wolf (Wolfsburg)

Treuliodd y cyn-amddiffynnwr bum mlynedd yn rheolwr y tîm yn y Bundesliga cyn iddo gael ei ddiswyddo yn 2003.

Arsene Wenger (Arsenal)

Bu’r Ffrancwr yn rheolwr Arsenal ers 1996 yn dilyn cyfnod wrth y llyw yn Nagoya Grampus Eight yn Siapan.

Peter Hartley a James Poole (Hartlepool)

Roedd enwau’r ddau chwaraewr ar restr sgorwyr y tîm yn erbyn Notts County yn yr Adran Gyntaf yn 2013.

Petr Cech

Golwr Arsenal erbyn hyn, sy’n hanu o…. Weriniaeth Tsiec!

Mae PA hefyd yn tynnu sylw at enwau Ricky Villa – er na chwaraeodd yr Archentwr fyth yn nhîm y Brummies, ac Alan Sunderland (Wolves, Arsenal ac Ipswich).