Fe fydd dyn yn ymddangos yn y llys heddiw ar gyhuddiad o lofruddio plismon yng Nglannau Mersi.

Fe fydd Clayton Williams, 18, o Wallasey, Glannau Mersi yn ymddangos gerbron ynadon Cilgwri ar gyhuddiad o lofruddio’r Cwnstabl Dave Phillips, 34 oed.

Mae hefyd wedi ei gyhuddo o geisio niweidio plismon arall, byrgleriaeth a dwyn cerbyd.

Mae ail ddyn, Phillip Stuart, 30, o  Oxton, wedi’i gyhuddo o ddwyn cerbyd a byrgleriaeth ac fe fydd hefyd yn ymddangos yn y llys.

Cafodd Dave Phillips, tad i ddau o blant, ei daro gan dryc oedd wedi ei ddwyn yn ystod oriau man bore dydd Llun.

Mae pedwar o bobl eraill a gafodd eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr wedi cael eu rhyddhau ar fechniaeth tra bod ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.