Cwnstabl Dave Phillips
Mae dwy ddynes wedi eu harestio gan yr heddlu sy’n ymchwilio i lofruddiaeth plismon ar Lannau Mersi.

Cafodd y Cwnstabl Dave Phillips ei daro gan gerbyd oedd wedi’i ddwyn yn oriau man bore dydd Llun.

Cafodd y ddwy  ddynes, sy’n 19 a 34 oed o Wallasey ar Lannau Mersi, eu harestio neithiwr ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Mae dau ddyn, 18 a 30 oed o Oxton a Wallasey yng Nghilgwri eisoes wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth Dave Phillips.

Y prynhawn ma cafodd dyn 39 oed a dynes 59 oed o Wallasey eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Cafodd yr heddwas 34 mlwydd oed ei ladd wrth iddo gynorthwyo yn dilyn lladrad mewn siop ym Mhenbedw, lle cafodd tryc Mitsubishi ei ddwyn toc ar ôl 1 y bore ddydd Llun.

Wrth i’r heddlu erlid y cerbyd, fe geisiodd y Cwnstabl Dave Phillips ddefnyddio teclyn ‘stinger’ i stopio’r  tryc yn y fan a’r lle.  Cafodd ei daro gan y cerbyd cyn i’r gyrrwr ffoi o’r safle.

Derbyniodd Dave Phillips driniaeth frys gan gydweithwyr ond fe fu farw yn ddiweddarach yn Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri.

Mae’r ddwy ddynes sydd wedi eu harestio yn cael eu holi mewn gorsafoedd heddlu yng Nglannau Mersi.

Y bore ma fe fu gweddw Dave Phillips, Jennifer Phillips, 28, a’i ddwy ferch Sophie, 3, ac Abigail, 7,  yn gosod blodau ger y safle lle cafodd ei ladd.

Mae cronfa er cof am y Cwnstabl Dave Phillips wedi llwyddo i godi dros £45,000 hyd yn hyn.