David Phillips
Mae dau ddyn wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddio plismon a fu farw ddoe ar ôl cael ei daro gan gerbyd oedd wedi’i ddwyn, meddai Heddlu Glannau Mersi.

Roedd Pc David Phillips, 34, yn cynorthwyo wedi  lladrad mewn arwerthwr tai ym Mhenbedw pan ddaeth i’r amlwg fod cerbyd Mitsubishi coch wedi’i ddwyn ychydig wedi 1yb fore Llun.

Fe ddefnyddiodd yr heddwas a’i gydweithwyr ddyfais stinger i atal y cerbyd rhag dianc, ond fe yrrodd gyrrwr y cerbyd yn syth at y plismon a gyrru i ffwrdd ar gyflymder wedi hynny.

Er i’w gydweithwyr roi cymorth cyntaf a CPR i David Phillips, tad i ddau o blant, fe fu farw ychydig wedi hynny yn yr ysbyty.

Mae dau ddyn, 18 a 30 oed o ardaloedd Cilgwri, wedi’u cymryd i orsafoedd heddlu Glannau Mersi – lle byddan nhw’n cael eu holi gan dditectifs.

Galw am wybodaeth

 

“Hoffwn ddiolch i’r cyhoedd am eu cymorth. Ers lansio’r ymchwiliad ddoe, rydyn ni wedi cael llif o alwadau gan aelodau o’r cyhoedd, ac yn sgil hynny mae gennym sawl trywydd i’w dilyn ar gyfer yr achos,” meddai’r Ditectif Uwch-arolygydd Paul Richardson.

Ond, mae’r ymchwiliad i’w lofruddiaeth yn parhau, ac mae Heddlu Glannau Mersi yn dal i apelio am unrhyw wybodaeth.

“Efallai y byddwch chi’n meddwl nad yw’r hyn o wybodaeth sydd gennych chi yn bwysig, ond gallai fod yn ddarn tyngedfennol yn y jig-so inni,” ychwanegodd Paul Richardson.

Fe ddangosodd archwiliad post-mortem y Swyddfa Gartref fod yr heddwas David Phillips wedi marw o anafiadau mewnol ac wedi dioddef o effaith gwrthdrawiad y cerbyd arno.

Daethpwyd o hyd i’r cerbyd, Mitsubishi L200 Challenger, a oedd wedi’i ddwyn ar Stryd Corbyn, Wallasey.

Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 0151 777 2263, neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.