Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos mai gofal diwedd oes y DU yw’r gorau yn y byd.

Roedd yr astudiaeth wedi ymchwilio i wasanaethau gofal lliniarol 80 o wledydd, ac mae’r casgliadau’n dangos fod hosbisau’r Gwasanaeth Iechyd  yn cynnig gofal “heb ei ail.”

Ond, er gwaetha’r canlyniad, mae elusennau yn mynnu fod angen gwneud mwy i wella gofal lliniarol yn y DU – yn enwedig gan fod y galw ar gynnydd.

Roedd yr ymchwil yn canolbwyntio ar amgylchedd yr ysbytai a’r hosbisau, nifer y staff a’u sgiliau ac ansawdd y gofal a pha mor fforddiadwy oedd y gwasanaeth.

‘Lle i wella’

Fe ddywedodd Simon Jones, Cyfarwyddwr Polisïau a Materion Cyhoeddus Marie Curie, fod angen gwneud mwy i wella mynediad at ofal lliniarol yn y DU ynghyd â datblygu hyfforddiant i staff.

“Er ein bod ni’n cydnabod gwaith da y DU wrth ddod yn arweinydd byd am ofal lliniarol – rydyn ni hefyd yn cydnabod o’n hymchwil ein hunain fod tua 110,000 o bobol bob blwyddyn yn colli allan ar ofal y maen nhw gwirioneddol ei angen,” meddai.

“Mae un o bob pump o bobol sy’n marw yn y DU ddim yn cael y gofal maen nhw ei angen. Yn syml, nid yw hyn yn ddigon da.”

Roedd Claire Henry, Prif Weithredwr y Cyngor Cenedlaethol ar Ofal Lliniarol yn cytuno â’r angen i wella’r gofal, ac er ei bod yn falch â’r canlyniad, fe ddywedodd:

“Does dim lle i laesu dwylo – yn enwedig pan fo’r galw am ofal lliniarol yn cynyddu.”

Gwledydd eraill

Awstralia oedd yn ail ar y rhestr am ofal lliniarol, gyda Seland Newydd yn dilyn. Roedd Iwerddon, Gwlad Belg, Taiwan a’r Almaen hefyd o fewn y deg uchaf.

Ond, dywedodd yr adroddiad nad oedd gofal lliniarol Irac, Bangladesh, China, Gweriniaeth Dominica, Iran na Guatemala  yn ddigon da.

Ond, cafodd gwledydd tlotach eu canmol, gyda Mongolia  yn dod yn 28 ar y rhestr ar ôl buddsoddi mewn cyfleusterau hosbis, ac Uganda yn dod yn 35 ar y rhestr am eu hymdrech i wella’r gwasanaethau.