Martin McGuinness
Fe allai’r ffoaduriaid cynta’ gyrraedd Gogledd Iwerddon o Syria, ymhen dau fis, yn ôl Dirprwy Brif Weinidog heddiw.

Mae Martin McGuinness wedi dweud fod y rhanbarth wedi ymrwymo i ddatrys y creisis rhyngwladol, a’i fod eisiau “estyn llaw cyfeillgarwch” i’r rheiny oedd yn diodde’.

Fe fydd grwp cychwynnol, yn cynnwys rhwng 50 a 100 o bobol ddigartre’, yn cael lloches ym mis Rhagfyr, cyn y bydd mwy o bobol yn cyrraedd Gogledd Iwerddon gam a cham wedyn.

“Fe fydd dechrau gyda nifer bychan yn ein helpu ni i ddysgu wrth fynd yn ein blaenau, a gwneud datrys unrhyw broblemau’n haws,” meddai Martin McGuinness.

“Rydyn ni’n credu fod y cynllun hwn i groesawu ffoaduriaid fesul cam yn dangos fod Gogledd Iwerddon yn aeddfed ac yn ddigon mawr i roi cartre’ ac i gynnig cymorth dyngarol i’r rheiny sy’n diodde’.”