O heddiw ymlaen, bydd rhaid talu 5c am fag plastig mewn siopau ac archfarchnadoedd mawr yn Lloegr.

Mae’r cynllun eisoes mewn grym yng Nghymru ers 2011 ac yn effeithio ar siopau o bob maint.

Ond, bydd y cynllun sy’n cael ei gyflwyno yn Lloegr heddiw yn neilltuo siopau bychain a bagiau papur. Am hynny, dim ond masnachwyr sydd â mwy na 250 o weithwyr llawn amser fydd yn gorfod codi tâl o 5c ar eu cwsmeriaid.

Lloegr yw’r rhan olaf o’r Deyrnas Unedig i gyflwyno’r cynllun hwn, a’r bwriad yw lleihau sbwriel a gwarchod yr amgylchedd.

Effaith y cynllun

Ond, mae ymgyrchwyr yn poeni na fydd y cynllun yr un mor llwyddiannus â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

Ar ôl cyflwyno’r cynllun yng Nghymru yn 2011, fe wnaeth nifer y bagiau a ddosbarthwyd gan fasnachwyr ddisgyn 79% yn ystod y tair blynedd gynta’.

“Bydd y tâl yn lleihau’r biliynau o fagiau plastig sy’n cael eu dosbarthu yn y DU bob blwyddyn yn sylweddol,” meddai David Powell o Gyfeillion y Ddaear.

“Ond fe ddylai fod yn berthnasol i siopau llai o faint hefyd.”

Fe ddywedodd fod “90% o fusnesau mawr a bach yng Nghymru wedi nodi nad oedd tâl o 5c wedi effeithio ar eu masnach.”

“Gall newidiadau syml, fel mynd â bagiau ein hunain wneud gwahaniaeth enfawr wrth leihau faint o blastig sy’n cael ei gylchredeg,” meddai Rory Stewart, Gweinidog yr Amgylchedd.

Y llynedd, fe gafodd mwy na 7.6biliwn o fagiau plastig eu dosbarthu mewn archfarchnadoedd ar draws Lloegr – mae hynny’n golygu tua 140 bag i bob person ar gyfartaledd.

Gallai’r cynllun hwn arbed £60m o gostau clirio sbwriel yn Lloegr, a chynhyrchu £730m tuag at achosion da.