Doug Richard, cyn-ymgynghorydd David Cameron
Mae un o gyn-ymgynghorwyr Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi ymddangos gerbron llys yn Llundain, i wynebu honiadau iddo gael rhyw â phlentyn.

Mae Doug Richard wedi’i gyhuddo o dri achos o gael rhyw â phlentyn, ac o un achos arall o annog plentyn i gael rhyw.

Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud ag un ferch, a oedd yn 13 oed ar y pryd, ac a aeth at yr heddlu i riportio’r digwyddiadau honedig a gymrodd le ym mis Ionawr eleni.

Fe siaradodd Doug Richard, 57, yn Llys Ynadon Westminster, i gadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni a’i gyfeiriad.

Mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth, ac mae i ymddangos gerbron yr Old Bailey ar Hydref 19.