Mae heddlu wedi cadarnhau mai dyn 77 oed oedd yn gyrru bws a yrrodd i mewn i archfarchnad, gan ladd pensiynwr a bachgen ifanc.

Mewn datganiad yn apelio am fwy o wybodaeth am y digwyddiad, mae Heddlu’r West Midlands yn dweud fod y gyrrwr, yntau, wedi diodde’ mân anafiadau a bellach yn cynorthwyo’r heddlu gyda’u hymholiadau.

Mae cwmni bysus Stagecoach Midlands wedi gwrthod ymateb i ymholiadau am oedran y gyrrwr bws dwbwl-dec a darodd ymyl archfarchnad Sainsbury’s yn Coventry ddydd Sadwrn.

Bu farw cerddwraig yn ei 70au o Nuneaton, a bachgen 7 mlwydd oed o Leamington Spa oedd yn teithio ar ddec ucha’r bws.

Y gred ydi bod y bws, a oedd ar y ffordd rhwng Coventry a Leamington, wedi taro nifer o geir llonydd, wedi mynd ar y pafin a tharo polyn lamp, cyn mynd ar ei ben i dalcen yr archfarchnad.